Dewislen
English

Her 100 Cerdd #78

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Molawd i Goffi

 

Tywyllwch i leddfu

colled tywyllwch;

gwaddod i ddygymod

â llymder y dydd.

Nid chwerw hwn;

nid chwerw mo waredwr!

O’r gwely fe’m tyn

fel truan o’i fedd

ac felly boed i hwn

dragwyddol hedd.

 

Morgan Owen, 6.32 am

Her 100 Cerdd 2018