Dewislen
English

Her 100 Cerdd #40

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Cysgod (Goresgyn iselder)

ar gais @MalanWilkinson @gwefanmeddwl

 

Dyna fo eto,

y pwl

yn taflu ei gysgod

fel derwen ddu,

a’r canghennau’n crafu creithiau

yn fy nghroen gwyn, oer.

 

A dyma chdi,

yn don

sy’n dadwreiddio

a thorri’r ceinciau i lawr,

er mwyn i’r haul fy nhrochi.

Manon Awst, 21.14 pm

Her 100 Cerdd 2018