Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #42

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn

Cerdd am y dyn sy’n dawnsio ger y safle bws yng Nghaernarfon

ar gais @maredllywelyn a @saramaredudd

 

Ymheliwn

neithiwr Morgan Lloyd a’i sigaréts

o fygu byw i fagia bin

piciwn, heibio Peacocks

o rynnu wrth gaffi Gronant

heibio Lee’s Chinese i’r nos…

 

heibio’r ddau’n Bar Bach sy’n anghytuno

heibio’r babi bach yn y fflat uwch ben Betfred sy’n crio,

heibio’r hogia’ ysgol tu allan i Costa sy’n cwffio,

heibio’r cwpwl ifanc yn nrws y Multi-Story sy’n closio,

heibio’r cariadon ger y Kebabs sy’n trio anghofio

 

heibio’r dyn yn y safle bws

sy’n dawnsio

rhag y dydd sydd wedi blino…

 

Caryl Bryn, 21.45 pm

Her 100 Cerdd 2018