Dewislen
English

Her 100 Cerdd #55

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Deffro

 

Dwi ‘di syrffedu ar wynebu

sgriniau anatebol

a’u ffurfwedd rhyngweithiadol.

 

Rho i mi wyneb i’r sgwrs

a gwên neu ddeigryn

sy’n meddalu’r lluniau llethol.

 

Cod dy ben i ddarllen

y newydd ar fy ngwedd i.

 

Cod dy ben i’r wybren oer

sy’n dy ddeffro di.

 

Cod dy ben o’r sgrîn

a chydia yn yr oria cyn iddi nosi.

 

Manon Awst, 01.34 am

Her 100 Cerdd 2018