Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #66

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Osian Owen

Mewn ymateb i gais am gerdd yn trafod dementia

 

Yr oedd dieithryn wedi dod i’r ardd.

Sleifio’n grechwen i gyd

rhwng brigau, sych,

mân y grwych.

Cripian

yn dawel, dawel.

Dim ond siffrwd i ddechrau

a’r gwynt yn bodio’r blodau.

Chwythu ambell ddeilen grin o’i lle.

Ac yna, grymuso.

A chwythu.

Rhacsio.

Chwalu.

A’r blodau’n chwilfriw.

 

Osian Owen, 03.45 am

 

Her 100 Cerdd 2018