Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #76

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Castell Dolbadarn

 

Hŷn na’r derw a’i wreiddiau’n

ddwfn yng nghadernid

gwlad nas trechwyd – teyrnas delfryd;

craig a saif uwch

llifeiriant brad

a llwfrhau, oriogrwydd

y rhai sy’n ei chadw

mewn golwg o hyd

yn delpyn a dwria

i floneg eu hanghydwybod.

Gadawn dirlun o gerrig,

geiriau’n ffradach

fel sgyrion llechi i’w sengi

gan dwristiaid ar dramp

drwy ardd ddof ein hangof.

 

Morgan Owen, 6.03 am

Her 100 Cerdd 2018