Dewislen
English

Her 100 Cerdd #11

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Osian Owen

Dyddiadur

Gadawyd yno ganddi’n

gorwedd ar y bwrdd.

Yn gwahodd Angau’i hun i ddod â’i frwsh

i liwio’i ddail gwyn

yn ddyddiau du.

Amserlennwyd galar

a rhifwyd dyddiau hiraeth yn dwt

nes daeth y dail i ben fesul saith.

Ond, gadawyd yno ganddi’n

gorwedd ar y bwrdd

a’r dail gwyn yn sôn

am ddyddiau du.

Osian Owen, 14.37 pm

Her 100 Cerdd 2018