Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #97

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Dyfod Dau

 

Pa beth yw cariad?

Di-ffin a di-fai.

Nid dadlau’n gas

yw diben dau.

 

Cariad sy’n gwarchod

ac yn parchu ei hun:

hyn sy’n newydd

ac yn hyfryd im.

 

Gofalu, gofidio,

â mwynder byw

nid ffendio esgusion

i grafu briw.

 

Dau sy’n deall,

dau sy’n falch,

dau sy’n cydio’n

yr oriau bach.

Manon Awst, 10.27 am

Her 100 Cerdd 2018