Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #72

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Elinor yn 18

 

Ar drothwy deunaw rwyt ar hast

i hedeg yn bell a llamu’r

blynyddoedd; ond na ddannod

i’r oriau eu harafwch.

Magu brys wna’r dyddiau

o hyn allan, a dawn i’th ddrysu;

gwibiant yn gynt na gallu

atgof newydd i setlo.

Y dyddiau hyn nawr fydd angor iti,

a’r holl bobl a wnaeth eu llenwi.

Morgan Owen, 05.25 am

Her 100 Cerdd 2018