Dewislen
English

Her 100 Cerdd #71

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn

Beth am gerdd am dy hoff ‘sgidiau @CarylBryn, dy enwog (luosog) @drmartens? #Her100Cerdd @LlenCymru

 

Malaf

yr edau melyn

wrth ddawnsio’n Peep

cyn crwydro’r pier

a’u gwisgo

‘nes ‘u bod yn gwasgu

i beintio’r stryd

yn gin ar ei hyd

 

ond bu’r rhain â mi

mewn angladd

yn sgidia’ du

a’n sgidia’ dod.

Caryl Bryn, 05.15 am

Her 100 Cerdd 2018