Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #30

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn

Cais am gerdd ar y testun ‘Galar’ a cherdd am ‘Lan Môr Llan’ (Cais gan Leah Elen).

#Her100Cerdd

 

Gwagio cwpwrdd dillad fy nhad wedi ei farwolaeth.

 

Daeth hi’n Hydref

yn ein cartref –

 

hel blodau’r ardd

yn blentyn bach

yng nghanol haf

yn troi’n atgof

yn araf

 

er i’r nos ddod yn nes

hithau’n oerach

nag erioed;

ei ddillad

yn dal yn gynnes

ac am eiliad –

 

cerdded adra’n

gynffon iddo

ac awel hallt

‘Lan Môr Llan’

yn cribo ‘ngwallt

a ‘fory ddim am ddeffro

a heddiw’n dwt

fel anrheg ‘dolig

cyn i’r co’ chwara’ mig –

 

ond yna’i

glywed o, ogla’ Dad

a thorri ‘nghalon

mewn eiliad.

 

Caryl Bryn, 19.04 pm

Her 100 Cerdd 2018