Dewislen
English

Her 100 Cerdd #9

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Gardd Eden

 

Gardd oedd pob bore a fu erioed

a’n noddfa cyn i ganol dydd

ein diflasu â’i olau rhy glir,

cyn iddo hel pob breuddwyd a rhith

i gilfach bell, heb fwlch

i gysgodi hediadau’r galon.

Haws credu ar y trothwy;

haws gweld tegwch yn y wawr.

Bwrw alltudiaeth a wnawn wedyn

yng nghelloedd swyddfeydd

neu ar ddisberod

fel llofrudd yn dwyn gwarthnod –

nes gwaeda’r dydd ei farw hir

a’n gollwng i’r nos.

Yng ngardd y bore fe’n golchir yn lân.

 

Morgan Owen, 14.00 pm

Her 100 Cerdd 2018