Dewislen
English

Her 100 Cerdd #14

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Cerdd i ysbrydoli genod bach Cymru heddiw

 

Mae hon i enethod o’r Gogledd i’r De

cefnogwn ein gilydd a mynnu ein lle.

 

Edrychwn o’n cwmpas a dathlu’r holl ddawn

gan ferched cŵl Cymru, yr arwyr go iawn!

 

Cerddorion, athletwyr, pencampwyr eu maes,

yn creu ac yn dringo i’r top fel Cymraes.

 

Ein hanes, ein heddiw – mae’r dyddiau i ni

yn llawn anturiaethau a heriau di-ri.

 

Gyda hyder a nerth mi siapiwn ein byd

fel ein chwiorydd o’n blaenau sydd yma o hyd.

 

Manon Awst, 15.45 pm

 

Y Cais: 

“A fyddai modd cael cerdd (addas i blant?), sydd yn talu sylw a chlodfori cyfraniad  genod gwych a merched mawreddog o Gymru.Merched megis Tori James, Frances Hoggan, Eileen Beasley, Betty Campbell ayyb a sut gall ei cyfraniadau nhw ysbrydoli genod bach Cymru heddiw.”

 

Her 100 Cerdd 2018