Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #41

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

I wirfoddolwyr Cymru

 

Amser yw’r adnodd prinnaf

a’r rhodd fwyaf; ennyd gyda’n gilydd

yw’r bont gadarnaf

o’r unigedd dyfnaf,

y llaw dyneraf

yn yr adfyd duaf.

Rhoi o wirfodd yw’r cariad puraf;

fesul eiliad mae mendio anaf.

 

Morgan Owen, 21.34 pm

Her 100 Cerdd 2018