Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #61

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Gwylnos

 

Nid oes amser rhyngof

â golau’r gannwyll,

hyd yn oed

wrth i’r gwêr fyrhau.

Synau ceir

a’r distawrwydd

yn y canol

yw mesur nos

a dreulir ar ddihun.

 

Morgan Owen, 02.31 am

Her 100 Cerdd 2018