Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #44

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Hiraeth mewn gwlad bell

 

Celciais ddelweddau a darnau’r cof

a cheisio’u hailosod ar strydoedd

anghyfarwydd. Chwiliais y machlud

am yr un arlliwiau aur, a’r wybren

gefn nos am y badell a’r eirth

ar ael mynyddoedd absennol.

Trwsgl oedd fy nghorff yn y wlad eang;

gallwn deimlo’r gorwelion rhy lydan

yn tyrru o’m hamgylch i’m rhagod.

Ond torrodd rhywbeth o’m mewn

a llamsachodd fy meddwl fel corwynt

yn y llwyni olewydd: yma gallwn ymgolli.

 

Morgan Owen, 22.33 pm

Uncategorized @cy