Dewislen
English

Her 100 Cerdd #68

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Hunllef chwarel

 

Mae chwarel yn lle cymwys

i gladdu uchelgais;

aeth angau fan hyn yn llywaeth

heb eneidiau i’w medi.

Ni ddaw i falu

ffenestri’r benglog

na sgythru lluniau dieflig

ar bost y gwely.

Ni welaf ar y llechi

broffwyd taranllais

yn addo apocalyps, felly

gwyliaf y wal yn britho

yn yr hwyr cyn i’r llen gwympo

unwaith yn rhagor, cyn i gân

brin seinio yng nghyntedd amwyll.

 

Morgan Owen, 04.22 am

Her 100 Cerdd 2018