Dewislen
English

Her 100 Cerdd #36

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Hydref

 

Safai’r pegia yn adar bach llwyd ar y lein,

ac un olch ar ôl y llall yn tampio’r tŷ:

 

rownd a rownd,

yn fwd o hwyl rhwng cwpwrdd a pheiriant.

 

Mae’r tywydd yn rhesi blêr o sgidia ar stepan drws,

a phentwr o gotia gwlyb ar fwlyn grisia:

 

dyddia ar grog rhwng Ha’ a Gaea’.

 

 

Manon Awst, 20.02 pm

 

 

Her 100 Cerdd 2018