Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #25

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Osian Owen
Her 100 Cerdd #25

I Mam

Mae llwch brown y bloda’

llinellau map ei dagra’

cryman lleia’i sgwydda’

i gyd yn sôn.

 

Yn belen ar y soffa

mae hon yn arddangosfa

o alar, y galar mwya’.

Colli mam.

 

Yna, daw y bora

mi dynnith lwch y bloda’,

ond bydd cryman lleia’i sgwydda’

yno o hyd.

 

Osian Owen, 17.44 pm

Uncategorized @cy