Dewislen
English

Her 100 Cerdd #74

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Pentwr (Cerdd i Lanberis)

 

Gair

gair arall

un ar ôl y llall.

Geiria fel crawia

yn drwm

a brau

yn ymestyn

yn walia simsan

ar y brynia.

Fachwen

Bigil

Deiniolen.

Y garreg las yn gerrynt

o leisia colledig

wedi’u hollti

yn bentwr

twt.

 

Manon Awst, 05.56 am

Her 100 Cerdd 2018