Dewislen
English
.

Mae’r barddoni hwn yn gyfle i blant fynegi poen nad ydynt wedi ei thrafod o’r blaen – Morgan Owen yn trafod SLAMbassadors

Cyhoeddwyd 19 Tachwedd 2017 - Gan Morgan Owen

Cofnod blog gan Morgan Owen yn trafod sesiwn hyfforddiant SLAMbassadors a gynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru dan arweiniad Joelle Taylor, Cyfarwyddwr Artistig SLAMbassadors UK sy’n cael ei rhedeg gan The Poetry Society. Mae SLAMbassadors UK yn defnyddio barddoniaeth Slam i roi llais a llwyfan i ieuenctid ar ymylon y gymdeithas. 

 

Bûm yn ddigon ffodus i fynychu gweithdy barddoniaeth wedi ei arwain gan y dalentog Joelle Taylor ddydd Sadwrn y 24ain o Fehefin a drefnwyd gan Lenyddiaeth Cymru. Roedd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar farddoniaeth slam, sef barddoniaeth a adroddir o flaen cynulleidfa – weithiau’n fyrfyfyr, weithiau wedi ei pharatoi ymlaen llaw – a hynny mewn cystadleuaeth ag eraill. P’un bynnag, ar y perfformio ei hun y mae’r pwyslais, sef ar farddoniaeth fel rhywbeth byw ac uniongyrchol, lle y mae cynhyrfu’r dorf yn rhinwedd yn hytrach na rhaffu delweddau cain a chyfeiriadau astrus mewn modd hunan-ymwybodol ‘farddonol’, onid barddonllyd. Nid oeddwn yn gyfarwydd â’r math hwn o farddoni, a chyrhaeddais heb wybod beth i’w ddisgwyl.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef i mi deimlo’n lletchwith ar y cychwyn, a minnau mor anghyfarwydd â barddoni yn y Saesneg, heb sôn am adrodd cerdd a ysgrifennwyd i destun byrfyfyr mewn cwta bum munud! Ond ar ôl yr ymarferiad cyntaf, dechreuodd pethau asio at ei gilydd a llaesodd ein tafodau. Yn bur fuan roeddwn yn gallu ysgrifennu’n rhydd a gadael i fy meddwl grwydro mewn cyfeiriadau ffrwythlon. Mynychwyd y gweithdy gan nifer o feirdd eraill, ac wedi i bawb setlo, gellid canfod y cyfnewid syniadau a’r cyd-ddylanwadu ar waith wrth i’r naill adael argraff ar y llall.

Yn rhy aml gall barddoni fod yn weithred unigolyddol, ac yn wir, rydym yn dueddol weithiau o hyrwyddo rhyw amgyffred rhamantaidd o’r bardd yn cyfansoddi ei cherdd neu ei gerdd ‘in the still night  / When only the moon rages’ fel y dywedai Dylan Thomas, yn bell o weddill y byd. Ond trwy farddoni gydag eraill mewn grwpiau a thrwy adrodd o flaen beirdd eraill, eangfrydig a chraff eu sylw, mae rhywun yn ymdeimlo â natur gymdeithasol y cyfrwng. Rhywbeth i’w hadrodd a’i chlywed yw barddoniaeth, wedi’r cyfan: dyna ydoedd yn gyntaf oll.

A dyna ddod â ni at un o’r prif bethau a ddysgais o fynychu’r gweithdy hwn. Mae Joelle a nifer o’r beirdd eraill a’i mynychodd yn gweithio gydag ysgolion er mwyn hyrwyddo barddoniaeth, gan eu cyflwyno nhw i farddoniaeth slam a’u hannog i gystadlu. Yn hyn o beth, un o’r ffyrdd gorau o gael y plant i ymagor i farddoniaeth yw eu cymell i drafod beth bynnag sy’n eu poeni. Cynhelir gweithdai fel hwn mewn ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig, a golyga hynny yn aml fod y barddoni hwn yn gyfle i blant fynegi poen nad ydynt wedi ei thrafod o’r blaen. Er gall hwnnw fod yn brofiad garw, rhydd iddynt fodd i ymateb i’r byd mewn ffordd nad oedd yn amlwg iddynt o’r blaen. Mae nifer o’r plant hyn, wedi eu hannog a’u cefnogi, yn lladmeryddion huawdl a deallus dros eu hachosion, dim ond iddynt gael y cyfle, ac maent yn gystal beirdd ag unrhyw un. Yn hyn o beth, dysgais sut mae barddoniaeth yn gallu rhoi llais i gymunedau gorthrymedig, megis lleiafrifoedd ethnig sydd yn dioddef o hiliaeth a rhagfarn wrth-Islamaidd. Gwych o beth fyddai lledaenu barddoniaeth Gymraeg fel hyn, a dangos fel y gall honno roi llais i unigolion.