Dewislen
English

Her 100 Cerdd #59

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn

‘Cerdd i ddathlu’r gymuned LGBT Gymraeg a’i llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018’. Cais gan ymgyrch ‘Mas ar y Maes’ (@masarymaes)

 

I ddwyn y ddinas

y flwyddyn hon –

‘daeth

‘Mas ar y Maes’

yn un don

a phaentio haul

dros ei phalmentydd hi

a chodi baner

y gymuned LGBT.

Caryl Bryn, 02.19 am

Her 100 Cerdd 2018