Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #16

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

I Fenter Y Plu

@menteryplu / www.menteryplu.cymru

 

Rhewodd amser ar ei waliau;

roedd yn hen heb ein mygu.

Ond a chyni ar gynnydd,

down ynghyd i’w chadw

yn dderwen o dafarn

sy’n deilio’n fraisg ac ir

heb gelu’i hoed na nod ei thir.

 

Morgan Owen, 16.06 pm

Her 100 Cerdd 2018