Dewislen
English
Cysylltwch

Munud yng nghwmni Guto Dafydd

Cyhoeddwyd Mer 21 Meh 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Munud yng nghwmni Guto Dafydd

 

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu cafodd Llenyddiaeth Cymru sgwrs fer â Guto Dafydd, bardd, awdur amryw stori fer ac awdur tair nofel gan gynnwys: Jac (Y Lolfa), nofel ditectif i’r arddegau cynnar; Stad (Y Lolfa), ei nofel gyntaf i oedolion; ac Ymbelydredd (Y Lolfa), enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2016.

Pam dy fod yn ysgrifennu?

Dim syniad! Ond dyma ambell reswm…

Dwi wrth fy modd efo’r broses ymarferol o gynllunio a rhoi geiriau at ei gilydd er mwyn trio gwireddu gweledigaeth (ond di’r gwaith gorffenedig byth mor dda â’r syniad sydd gen i yn fy mhen ar y dechrau). Yn ail, dwi’n cael cyfle i feddwl yn ddyfnach am deimladau, profiadau a syniadau, a thrio’u patsio nhw at ei gilydd fel cyfanwaith – yn y gobaith y byddan nhw’n taro deuddeg efo rhywun arall. Yn olaf,  mae pobl Cymru yn cofleidio’u sgwenwyr efo lot mwy nag y maen nhw’n haeddu o glod, parch, mawl a bri, ac mae hynny’n deimlad anhygoel o braf.

 

Oes gen ti gyngor i ysgrifennwyr newydd?

Fy nghyngor i i sgwenwyr ydi peidio byth ag anghofio am y gynulleidfa. Wrth gwrs, mae angen gweledigaeth bersonol ddidwyll, ac mae angen herio disgwyliadau a rhagfarnau’r darllenwyr. Ond yn y diwedd, os nad ydi’r gwaith yn rhoi gwefr a mwynhad i rywun heblaw’r sgwennwr, dio’n da i ddim byd.

 

Guto Dafydd yw un o’r artistiaid sydd wedi cynhyrchu A Oes Heddwch? sef cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 sy’n coffáu y Rhyfel Byd Cyntaf.

Llenyddiaeth Cymru