Dewislen
English

Her 100 Cerdd #87

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn

Mynd yn ôl at destun cyfarwydd wrth i eiriau fynd yn fwy prin –

 

Englyn i Naomi John

 

A wyddost werth dy chwerthin? – difyrrwch

dy ‘fory’n ymestyn

o un wên i’r cyfan hyn;

ein nefoedd a’n cynefin.

 

Caryl Bryn, 7.52 am

Her 100 Cerdd 2018