Dewislen
English

Her 100 Cerdd #34

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Osian Owen

Netflix

 

Rhwng pob pennod

daeth y düwch

a datgelu pob yfory’n

benodau cywasgedig, twt.

 

Minnau’n hogyn coleg.

Stiwdant. A’i fywyd

wedi ei fframio’n ddau wyneb

rhwng ugain modfedd.

 

Roedd ddoe’n hen benod.

Ddoe a’i eiriau cas.

Ddoe a’i ddagrau hallt .

Ddoe a’i ddifaru.

 

Hen bennod mewn hen hen gyfres.

 

Cliciwn yn awchus.

Next episode.

 

Clicio. Clicio heb

sylweddoli nad oedd fory’n bod am byth.

Heb sylweddoli fod ein penodau

wedi eu rhifo.

 

Ond am heddiw, oedwn am ennyd.

 

Ymhyfryda efo fi

a sylla ar y sgrin ddu.

 

Mewn eiliadau o dduwch

a distawrwydd rhwng pennod

a phennod, dyro winc.

Mi ro i un yn ôl.

 

Rhwng chwerthin

y bennod ddwytha

a chrїo’r nesa

oedwn am eiliad i jecio

bod y llun yn llawn

a’r gwydr heb falu.

 

A tyrd.

Clicia, efo fi.

Wyt ti’n barod?

 

Next Episode.

 

Osian Owen, 19.28 pm

Her 100 Cerdd 2018