Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #64

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Y newydd-anedig

 

Y bychain sy’n newid y byd.

Gwarant cariad yw eu dwyn

o’r meddalwch diamddiffyn

i ruthr y bywyd hwn

ar eu traed eu hunain.

Gweld cwlwm cariad yw deffro’n

ddiarwybod ryw ddydd

lle mae ymwybod â bod

yn fod ar wahân

drwy ofal di-amod yr holl gariad

a’th wreiddiodd yn y byd mawr.

 

Morgan Owen, 03.28 am

Her 100 Cerdd 2018