Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #60

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Nofio

yn ymateb i gais Beth Celyn

 

Wedi ychydig betruso

dwi’n gadael i’r

llanw fy llyncu.

 

Mae’r ias oer yn dringo

fy asgwrn cefn, fy sgwyddau,

nes bod fy nghyhyrau’n gwasgu’n dynn,

wedi fferru.

 

Dan y don yr af fel pysgodyn,

fy nghwmpawd wedi suddo,

a ‘mhlentyndod yn rhewi yn fy mhen

wrth i’r graen hallt

greu fy nghroen o’r newydd.

 

Gofod newydd,

corff newydd,

a ffrwd yn fy ngwythiennau

yn barod am yfory.

Manon Awst, 02.22 am

Her 100 Cerdd 2018