Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #27

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Manon Awst
Her 100 Cerdd #27

Noson allan (gan hiraethu am nosweithiau allan efo @Beth Celyn)

 

Pen fel meipan

Noson hwyr

Dwi’m yn dysgu

Ffradach llwyr

 

Isho cysgu

Teimlo’n sâl

Ond wrth reswm

Dwi’m yn cael

 

Plant yn effro

Poeni dim

Fod mam yn syffro

Ar ôl y gin.

 

 

Manon Awst, 18.42 pm

 

 

Uncategorized @cy