Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #5

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

PEN Cymru

 

Mae geiriau’n freued â braint

eu hyngan yn rhydd,

yn gyfoeth uwch pob elw

a’r unig elw pan gaea’r ffin.

 

Braint yw gair sy’n breuo ffin,

taran a dyr ar nos hir

tafodau clwm, terfysg

gobaith mewn tir llwm.

 

Morgan Owen, 12.48 pm

Her 100 Cerdd 2018