Dewislen
English

Her 100 Cerdd #13

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen

Cylchgrawn Planet

 

Ynom aeth hi’n dynnu torch

rhwng dau dafod

dros yr un diriogaeth.

Mynnai’r hen yr hawl

yn ei wreiddiau hŷn;

o’r gweithfeydd

daeth llef yn y diffaith

a enwai golled

mewn iaith anghyfiaith.

 

Teimlad yn y dirgel

yw Cymru;

bydd lle bo ei henwi

a’i harddel.

Ein cymod yw ei hail-greu

o hyd yn ngefail

ein cyd-drawiadau.

 

Morgan Owen, 15.14 om

Her 100 Cerdd 2018