Dewislen
English
.

Preswyliad Llenyddol Barddoniaeth Colled: Brwsel #2 – Gan Nerys Williams

Cyhoeddwyd 19 Tachwedd 2017 - Gan Nerys Williams
Barddoniaeth a Dogfen: Asio Cymru, Iwerddon a Gwlad Belg

Sut mae Barddoniaeth yn dogfennu? Sut mae cerdd yn dwyn tystiolaeth? Dyma ddau o blith nifer o gwestiynau rwyf wedi holi fy hun yn ystod fy nghyfnod yn Passa Porta ym Mrwsel, fel rhan o raglen Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss. Beth mae’n ei olygu i fod yn ferch o Gymru, sydd erioed wedi gwasanaethu mewn byddin, sy’n byw yn Iwerddon ac sy’n ysgrifennu am ddau filwr mewn rhyfel Ewropeaidd? A hyn oll yn digwydd yn ystod cyfnod o ddadlau ynghylch effaith Brexit ar wledydd Prydain? Sut dylid coffau bywydau a barddoniaeth y bardd o Gymru Ellis Evans (Hedd Wyn) a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge mewn modd moesegol a didwyll, heb fawrygu rhyfel? Gan wybod yn iawn na fyddai’r naill na’r llall, wedi disgwyl, na chroesawu, eu statws fel ‘bardd rhyfel’.

Mae Tim Kendall yn nodi sawl ystadegyn syfrdanol ynghylch barddoniaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ôl Kendall, o’r 2000 o unigolion a fyddai wedi cael eu cyhoeddi yn ystod blynyddoedd y rhyfel, roedd chwarter ohonynt yn ferched, un o bob pump yn filwyr gwrywaidd, a’r mwyafrif (dros eu hanner) yn ddinasyddion sifil gwrywaidd.(1) Arferai’r ‘beirdd sifil’ hyn fel Rudyard Kipling a Thomas Hardy, a oedd yn clodfori’r rhyfel ar y dechrau o dan faner gwladgarwch, gael eu galw’n ‘silver haired swashbucklers’ ac yn ‘poetical armchair warriors’.(2) Mae’r term ‘bardd rhyfel’ hefyd yn rhoi syniad i ni mai profiad personol o’r rhyfel ydyw. Mae’n awgrymu barddoniaeth gan filwr. Yn aml, bydd barddoniaeth rhyfel yn cynrychioli syniadau ynghylch dilysrwydd profiad uniongyrchol, y bardd fel tyst a’r farddoniaeth fel tystiolaeth. Ond mae barddoniaeth y Rhyfel Byd Cyntaf yn fwy cymhleth na hynny. Er bod syniadau dogfennu yn agos iawn i farddoniaeth y ffosydd neu farddoniaeth y milwr, ni allwn bob amser eu priodoli i syniadau o brofiad uniongyrchol.

Er enghraifft, ni ddechreuodd y bardd rhyfel, David Jones, ei waith mawr In Parenthesis tan ar ôl y rhyfel mewn gwirionedd, a dim ond yn 1937 y’i cyhoeddwyd. Dylem gofio mai dim ond pedair cerdd gan Wilfred Owen a gyhoeddwyd yn ystod ei fywyd. Mae’r syniad o ddogfennu rwy’n ei gynnig yn fwy na bod yn dyst uniongyrchol, gan ei fod yn ychwanegu rhywbeth i’n syniad ni o gof diwylliannol hefyd. Ond heb amheuaeth, mae’r dogfennu sy’n digwydd yng ngwaith beirdd y ffosydd yn cyfleu’r erchylltra mewn ffordd gignoeth, gan greu synthesis o’r hyn roedden nhw’n ei arogli, ei glywed, ei weld, ei flasu a’i deimlo. Nid pawb oedd yn gwerthfawrogi’r fath gerddi. Hyd yn oed yn 1936, dywedodd W.B. Yeats yn ei gyflwyniad i’r Oxford Book of Modern Verse o dan ei olygyddiaeth, mai’r rheswm iddo eithrio cerddi’r ffosydd oedd ‘Passive suffering is not a theme for Poetry’.

Rwy’n edrych ar fywyd a gwaith Ellis Evans a Francis Ledwidge drwy ystyried y nodweddion maen nhw’n eu rhannu ynghyd â’r hyn sy’n wahanol rhwng y ddau. Rwyf hefyd yn ceisio hwyluso sgwrs rhwng eu cerddi, ac o ganlyniad, rhwng Cymru ac Iwerddon. Wrth ddrafftio fy nilyniant i o ddeg o gerddi, yn dwyn y teitl dros dro, ‘Pontio’, rwyf wedi canfod mai un gair sy’n adleisio drwy’r gwaith yw asio, neu ‘suture’. Mae’r gair yn taro nodyn, nid yn unig oherwydd ei fod yn uno neu’n dwyn ynghyd, ond hefyd oherwydd ei ddehongliad meddygol. Yn ôl The Oxford English Dictionary ‘[t]he joining of the lips of a wound, or of the ends of a severed nerve or tendon, by stitches; also, an instance of this; a stitch used for this purpose’ yw’r ystyr honno. Mae cymhlethdod sefyllfaoedd Ellis a Ledwidge, un yn filwr a orfodwyd i ymuno, a’r llall yn genedlaetholwr o Wyddel a ddewisodd ymladd dros Brydain adeg cyfnod pan oedd Iwerddon yn ceisio annibyniaeth, yn codi cwestiynau perthnasol ynghylch cenedlaetholdeb a bod yn Ewropeaidd; traddodiad a modernedd.

Museé de la Musique
Museé de la Musique

Mae un o’r adrannau rwyf wedi bod yn eu cyfansoddi, ‘Time Lapse’, yn ystyried ‘asio’ Cymru ac Iwerddon yn Sir Feirionnydd. Yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916, caethiwyd carcharorion rhyfel o Iwerddon yng Ngwersyll Frongoch. Mae’r gerdd yn dilyn Dr David Peters, sef un o feddygon y gwersyll. Mae cerdd ddiweddar arall ‘Player Piano’ yn ceisio ymdrin â syniadau’r peiriant modern, cerddoriaeth ac ysgrifennu. Ysgogwyd y gerdd hon gan ymweliad â Museé de la Musique, ym Mrwsel, adeilad art-deco hardd arall gyda golygfa dros y ddinas ac arddangosfa anhygoel ar esblygiad yr allweddell o’r harpsicord a’r MOOG i dechnoleg ddigidol. Dechreuais feddwl am sut roedd y Rhyfel Byd Cyntaf fel peiriant rhyfel yn cydseinio â syniad Carlos Williams mai ‘peiriant wedi’i wneud o eiriau’ yw cerdd. Cafodd y pianola, gyda’i gerddoriaeth arallfydol, ei farchnata fel teclyn difyrrwch. Yn ‘Player Piano’ rwyf hefyd yn cynnwys testun o hysbyseb am Orchestrell Pianola yn The Illustrated London News (12 Mehefin 1915).

Museé de la Musique
Museé de la Musique

Ar 22 Mai daeth Cymru ac Iwerddon at ei gilydd yn Llysgenhadaeth Iwerddon ym Mrwsel, diolch i gefnogaeth y Llysgennad Eamonn Mac Aodha. Ar y cyd â Myles Dungan, rhoddais gyflwyniad ar Ledwidge ac Evans yn dwyn y teitl ‘Bardd/Beirdd y Gadair Ddu’. Roedd yn bwysig cyflwyno Evans i bobl nad oeddent yn gyfarwydd â’i waith. Gyda hyn mewn cof, roeddwn wedi cyfieithu rhai o gerddi enwocaf Evans, ‘Rhyfel’ a ‘Marw Oddi Cartref’.

Roedd yn bleser gweld rhai o wynebau o’r prynhawn yn y Llysgenhadaeth yn y noson goffau ar gyfer Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss ar 23 Mai yn Passa Porta. Roedd y noson yn blethiad o gerddoriaeth gan Gwyneth Glyn a Twm Morys, darlleniadau gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, y bardd a’r beirniad Fflemaidd Geert Buelens a’r nofelydd a’r bardd-feirniad Patrick McGuinness. Diolch i ofalaeth Lleucu Siencyn a chynulleidfa frwd, roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gael trafodaeth ystyrlon ynghylch diwylliannau Gwlad Belg, Cymru ac Iwerddon yn dod ynghyd.

Gall darllen barddoniaeth newydd i gynulleidfa fod yn brofiad nerfus iawn. Mae fy nghyfraniad i ‘The Calendar is on Fire’– daw’r teitl hwn o linell yn awdl Yr Arwr gan Ellis Evans – yn ceisio dangos sut y mae barddoniaeth yn gweithredu fel milwr ar ffin ieithyddol. Rwy’n ceisio credu y gall barddoniaeth helpu i fonitro’r modd y caiff ieithydd eu cam-drin (i wasanaethau celwyddau), ac ar yr un pryd yn ein helpu i ddathlu posibiliadau ‘cyrchu’ yfory unwaith eto.

Roedd y newyddion erchyll a ddaeth o ymosodiad Manceinion a’r marwolaethau ofnadwy yn ffrâm ingol i’n noson goffau ni ym Mrwsel.


(1) Tim Kendall ‘Civilian War Poetry Hardy and Kipling’ The Cambridge Companion to the Poetry of the First World War gol. Santanu Das (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2013) tt. 198- 208 (t. 200)
(2) Ibid t. 201.


Ym mis Mai, cyflawnodd y bardd a’r academydd Nerys Williams breswyliad llenyddol ym Mrwsel, gan archwilio’r tebygrwydd rhwng hanes Hedd Wyn a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge. Bu farw’r ddau yn Ypres ar 31 Gorffennaf 1917. Yn ystod ei phreswyliad, ymwelodd Nerys ag ardal Artillery Wood, ble claddwyd y ddau fardd.

Dyddiadau’r Preswyliad: Dydd Llun 8 – Dydd Sul 28 Mai 2017

Mae prosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss yn cynnwys digwyddiadau coffaol yn Fflandrys ac Iwerddon; cyfnewidfa breswyl ar gyfer awduron rhwng Passa Porta ym Mrwsel a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy; a sioe farddoniaeth amlgyfrwng newydd dan y teitl Y Gadair Wag – i’w llwyfannu ym mis Medi 2017. Eleni, traddodwyd Darlith Glyn Jones 2017 yng Ngŵyl y Gelli gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ar fywyd a gwaith Hedd Wyn.

Caiff Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i ariannir gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i weithredir mewn partneriaeth â Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

I ddarganfod mwy am Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, cliciwch yma.

Barddoniaeth Colled