Dewislen
English
.

Preswyliad Llenyddol Barddoniaeth Colled: Brwsel #3 – Gan Nerys Williams

Cyhoeddwyd 24 Medi 2017 - Gan Nerys Williams

Ffiniau, Pŷg a Boezinge.

Erbyn hyn rydw i’n ôl yn Iwerddon ac yn gallu myfyrio ychydig ar ddyddiau olaf fy wythnos olaf yn Passa Porta a Brwsel. Yn ddiweddar, mae croesi ffiniau a phasio drwy dollau wedi dod yn beth mwy symbolaidd. Oherwydd Refferendwm Prydain ar 23 Mehefin 2016, rwy’n edrych nawr ar fy sefyllfa i fy hunan fel dinesydd o Gymru yn Iwerddon. Bob tro rwy’n rhoi’r Pasbort Prydeinig porffor tywyll yna i swyddog, rwy’n meddwl am y ffurflen ddinasyddio ar hanner ei llenwi sy’n byw yn fy stydi (gyda’i phecyn swmpus o gyd-ddogfennau). Mae fy ngwaith, fy ngŵr a’m plentyn yn Iwerddon, ond Cymraes Gymraeg ydw i o hyd. I’r rhai ar wasgar, mae yna gymhlethdodau’n perthyn i syniadau am ddinasyddiaeth, cymhlethdodau yr oedd cyfran helaeth o etholwyr gwledydd Prydain yn anymwybodol ohonynt tan y refferendwm yn ôl pob golwg. Yn Iwerddon yn ddiweddar, clywyd adroddiadau bywiog ar Radio RTE o seremonïau dinasyddiaeth sy’n ddigwyddiadau llawen iawn. Ym mis Ebrill, adroddodd yr Irish Times fod cynnydd yn nifer y Dinasyddion Prydeinig sy’n gwneud cais am ddinasyddiaeth Wyddelig oherwydd ‘Blŵs Brexit’.

Ar ôl dychwelyd o Frwsel, rwy’n codi fy ysgwyddau ar y ffurflen ddinasyddio ac yn atgoffa fy hunan bod gen i ddewis. Bydd byw yn Iwerddon yn golygu y galla i gadw’r hyn dw i angen, gobeithio. Deuoliaeth. Ac mae’r Gymraeg ar gael i mi fel rhan o zeitgeist plentyn. Cyw S4C ar deledu lloeren yw un o ‘allforion’ mwyaf gogoneddus Cymru. Mae wedi sicrhau bod plentyn pum mlwydd oed yn Kells, Swydd Meath, yn gallu siarad Cymraeg. Hyd yn oed os nad oes neb arall ar iard yr ysgol yn gwybod pwy yw Dona Direidi, does bosib bod cyfleoedd diwylliannol ar gael yn y Gaeltacht i hanner Cymraes, hanner Gwyddeles sy’n gallu rapio?

Doedd dim dewisiadau gan Hedd Wyn. Dyddiau ar gyfer coffáu oedd fy nyddiau olaf i fel rhan o Breswyliad Barddoniaeth Colled, mewn ffyrdd uniongyrchol ac anuniongyrchol. Ar 24 Mai roeddwn i’n falch o gael mynd i agoriad Arddangosfa Cadair Can Mlynedd Hedd Wyn yn Senedd Fflandrys. Roedd y Gadair Ddu wreiddiol y bu Hedd Wyn farw cyn ei hennill wedi ei dylunio, ei gwneud a’i cherfio gan ffoadur o Wlad Belg, Eugene Van Fleteren o Mechelen, ar gyfer Eisteddfod Penbedw 1917. Mechelen, yn ôl y sôn, yw cartref y grefft draddodiadol o wneud cypyrddau yng Ngwlad Belg. Myfyrwyr dylunio dodrefn ifanc sydd wedi creu’r comisiwn newydd hwn. Mae strwythur y comisiwn a enillodd yn cynnwys dau hen drawst rheilffordd wedi’u torri yn eu hanner. Mae cysgod llinell wedi’i gerfio ar bob un. Mae’r bwlch corfforol rhwng y ddau drawst yn creu trybedd o chwith ar gefn y gadair. Mae ochr isaf y trawstiau yn cadw ychydig o’u hanes – mae staen tywyll drostynt, sy’n edrych fel pŷg. Derw mygedig yw breichiau’r gadair. Roedd trawstiau yn cael eu defnyddio i gynnal twneli a llwybrau ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf wrth gwrs. Mae’r bylchau yn y trawstiau lle roedd rhybedi mawr bellach yn edrych fel tyllau bwledi. I fi, mae llymder y gadair a’i siâp llym yn addas iawn. Mae’r bylchau rhwng y rhannau gwahanol yn pwysleisio’r ffaith mai cadair wag, a adawyd, yw hon. Yn ystod y lansiad mae pawb yn tewi ar gyfer munud o dawelwch er parch.

Cadair Newydd

Dyma’r diwrnod hefyd pan fo’r Arlywydd Trump yn cyrraedd Brwsel, i fynd i gyfarfod NATO y diwrnod wedyn. Mae’r baricedau allan, a gyda’r nos mae protest fawr yn gorymdeithio drwy’r ddinas. Mae placardiau lliwgar, offerynnau cerdd, cyrn pres, cyrn siarad a hetiau pwsi pinc yn llenwi Place de La Bourse. Y noson honno rwy’n sylwi bod meindwr Hotel de Ville yn La Grande Place yn fôr o oleuadau lliw. A finnau’n byw ym Mrwsel ers tair wythnos, un peth sydd wedi fy nharo ydy’r presenoldeb milwrol parhaus yn y ddinas. Llond loriau o filwyr arfog yn treulio’u hamser cinio yn anghyfforddus o dan eu cynfasau caci. Mae disgwyl i filwyr fonitro’r gofodau cyhoeddus sy’n ferw o gymudwyr, ymwelwyr a diddanwyr. O’r ‘cadoediad’ anesmwyth hwnnw rhwng gwylfa filwrol a gofod cyhoeddus daw cerdd anesmwyth. Mae drafft o ‘The Fox in the Square’ yn dechrau cyniwair ar y dudalen. Roedd un ymadrodd yn mynnu ailadrodd yn fy mhen – ‘the softness of their bodies’. Yr hyn oedd yn codi dro ar ôl tro oedd y corff diarfau; y darlun canolog yw dawnswyr yn dawnsio ar y sgwâr, ac arfau milwrol yn eu goruchwylio.

Protestiadau, Brwsel

Yn 1916, penderfynodd llywodraeth Prydain y byddai milwyr yn cael eu claddu lle bynnag y buon nhw farw; fyddai gan deuluoedd ddim hawl i fynnu bod eu cyrff yn cael eu dychwelyd i’w claddu. Wrth deithio yn y trên tuag at Ypres i ymweld â mynwent Artillery Wood lle claddwyd Hedd Wyn a Francis Ledwidge, mae’n drawiadol mor ddirybudd mae mynwentydd rhyfel yn ymddangos, weithiau ger ochr y ffordd, dro arall yng nghanol cae mawr. Mae maint a dyluniad pob carreg fedd yn union yr un peth, a gall milwr cyffredin fod wedi’i gladdu drws nesaf i gadfridog. Er ei bod yn ddiwrnod llethol, rwy’n penderfynu cerdded y pum milltir o orsaf Ypres i bentref Boezinge. Rwy’n dilyn y Gamlas. Un o’r mynwentydd llai yw Artillery Wood, ac o’i chwmpas mae tir amaeth ac ambell dŷ. Tu draw i wal y fynwent mae llwybr beicio Francis Ledwidge.

Rwy’n gweld baner Iwerddon yn cyhwfan uwchben cofeb Ledwidge o’r tu draw i’r gwrych. Bu Ledwidge yn gweithio fel gwas ffarm, fel gweithiwr ffordd i’r cyngor ac fel mwyngloddiwr. Fe’i lladdwyd yn Boezinge gan siel strae, ag yntau wedi dioddef yn Gallipoli a goroesi yno. Yn adnabyddus fel bardd bugeilgerddi – neu’n ‘fardd y deryn du’ – roeddwn i’n falch o glywed sŵn trydar wrth y garreg goffa a dyrnu yn y caeau. Fodd bynnag, mae ôl creithiau moderniaeth yn amlwg ar gerddi diweddarach Ledwidge.

Cofeb Francis Ledwidge, Artillery Wood

Ryw ganllath oddi yno mae bedd Hedd Wyn, ychydig yn fwy amlwg na’r lleill oherwydd baner fach y ddraig goch sydd wedi’i gadael yno gan rywun. Hefyd ar y bedd mae torch o bopis plastig a cherdyn gan Ysgol Gymraeg Castellau, Beddau. Yr unig beth y gallwn i feddwl amdano fel rhodd i’r bardd oedd rhywbeth na chafodd gyfle i’w weld yn ystod ei oes fer. Rwy’n estyn i’m sach deithio am y cwdyn lliain bach sy’n dal fy nghopi o gyfrol Hedd Wyn, Cerddi’r Bugail, a gyhoeddwyd ar ôl ei farw. Rwy’n ei hagor ac yn ei gosod wrth y bedd. Cyhoeddwyd y gyfrol yn 1918 gydag arian a godwyd yng nghymuned Trawsfynydd. Cymdogion a llenorion fu’n casglu’r cerddi gwasgaredig hefyd. Marwnadau i’r dynion ifanc a gollwyd yw llawer ohonynt. Mae’n siŵr bod y cerddi yn codi pwys ar y bardd ei hunan, ag yntau’n eu cyfansoddi i deuluoedd syfrdan Trawsfynydd, yn rhoddion galar neu’n dalismonau at y dyfodol. Rwy’n darllen un o’r cerddi, ‘Y Blotyn Du’. Rwy’n tynnu llun o’r llyfr yn gorffwys ar bridd Boezinge. Mae’r tudalennau’n siffrwd gyda phob cwthwm o wynt.

Bedd Hedd Wyn, Artillery Wood

Ym mis Mai, cyflawnodd y bardd a’r academydd Nerys Williams breswyliad llenyddol ym Mrwsel, gan archwilio’r tebygrwydd rhwng hanes Hedd Wyn a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge. Bu farw’r ddau yn Ypres ar 31 Gorffennaf 1917. Yn ystod ei phreswyliad, ymwelodd Nerys ag ardal Artillery Wood, ble claddwyd y ddau fardd.

Dyddiadau’r Preswyliad: Dydd Llun 8 – Dydd Sul 28 Mai 2017

Mae prosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss yn cynnwys digwyddiadau coffaol yn Fflandrys ac Iwerddon; cyfnewidfa breswyl ar gyfer awduron rhwng Passa Porta ym Mrwsel a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy; a sioe farddoniaeth amlgyfrwng newydd dan y teitl Y Gadair Wag – i’w llwyfannu ym mis Medi 2017. Eleni, traddodwyd Darlith Glyn Jones 2017 yng Ngŵyl y Gelli gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ar fywyd a gwaith Hedd Wyn.

Caiff Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i ariannir gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i weithredir mewn partneriaeth â Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

I ddarganfod mwy am Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, cliciwch yma.

 

Barddoniaeth Colled