Dewislen
English

Her 100 Cerdd #48

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Manon Awst

Trobwynt (ymateb i’r cais am ffendio hunanwerth)

 

Edrych allan dros y môr

a gwybod mod i adra.

Alla i’m disgwyl dim byd mwy

r’ôl rhedeg o’r hên le ‘na.

 

Casglu cerrig bach a mawr

a’u gosod ar y pentan

er mwyn llenwi’r dyddiau hir

sy’n wag heb dân na chusan.

 

Cerdded, sgwennu, canu cân,

yfed, sgwrsio, dawnsio.

Sgwn i pam dwi’n neud hyn oll?

Er mwyn cael teimlo eto.

 

Manon Awst, 23.55 pm

Her 100 Cerdd 2018