Dewislen
English

Her 100 Cerdd #2

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn

‘Cerdd i dwpsyn sy’n eistedd yn Costa am ei fod wedi mynd i’w ddarlith awr yn gynnar.’ Cais gan Rhys Dafis (@Rhys_Dafis).

 

‘Di neithiwr ‘dal heb ddeffro

a goleuadau’r stryd

yn huwcyn cwsg ar ei hyd

a’r bysiau ffenestri stêm

o’r stryd i’r dre’n

dylyfu gên

a’r siopa’

chwech y bora’n

agor llygaid

a ‘mestyn breichia’

wrth i’r bobl ruthro heibio…

ond daw’r byd yn ôl i’w drefn

‘mhen yr awr.

 

Caryl Bryn, 12.22 pm

Her 100 Cerdd 2018