Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #28

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen
Her 100 Cerdd #28

Twthill

 

Yn weddillyn gweddillion

yn fy mro fy hun,

euthum gyda’r haid piod

i rwysg Caerdydd.

Ni fu’n hir nes bod

yr un hen wacter yn fy nal

ac edliw fy erthyl wreiddiau:

rhy rydlyd oedd cwlwm dur a glo.

 

Euthum felly lle mae’r cerrig yn ateb

iaith llwch fy mebyd,

i fin y culfor ehangaf ei orwel.

Yn froc môr o ddieithryn,

tiriais yn nghornel wag fy map

i brofi o’r newydd y wefr yn y tir,

i hau fy hanes air am air

i gwysi dröwyd yn haul

ysbeidiol ein tynged.

Er fy mod ar ddirdro,

ymglymaf yng ngwe ein hiaith

dros agendor o wahaniaeth.

 

Morgan Owen, 18.52 pm

Uncategorized @cy