Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #3

Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018 - Gan Morgan Owen
Her 100 Cerdd #3

Ffin

 

Mae’r ddaear fan hyn yn ymwybod

â’r ffin, a’r golau hefyd

sy’n fwy gwasgarog, fel dŵr

yr aberoedd diog, a’r lle oll

yn gyforiog o gydgyfarfod;

heb fynyddoedd i’w llamu

gall y golau oedi

a chawn ninnau ymholi

yn y llannerch rhwng dwy iaith,

dau hanes a dwy daith:

pwy wyf fi heb fwrn

fy ngorffennol a gwasgfa

fy nyfodol? Neb a phawb,

gwreichion yn yr hollt

a rhith yng ngolau’r lloer.

Cyfryngwn yma rhwng deuoedd,

dryswn y cyfarwydd.

A geisio afiaith, ceisied ffin.

 

Morgan Owen, 12.27 pm

Uncategorized @cy