Dewislen
English
.

Ysgoloriaeth a Strategaeth gan Angela Graham

Cyhoeddwyd 19 Tachwedd 2017 - Gan Angela Graham
© Angela Graham

Cafodd Angela Graham, Cynhyrchydd Teledu Cymraeg ei hiaith o Ogledd Iwerddon, Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2017 i gwblhau casgliad o straeon byrion. Mae’n disgrifio mynd i’r afael ag ochr busnes y gwaith o ysgrifennu.


Hyd yn oed cyn i mi glywed bod Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu Ysgoloriaeth i mi, roeddwn wedi penderfynu y byddwn yn ymrwymo i ysgrifennu cyn gynted ag yr oedd prosiect mawr yn fy ngwaith wedi dod i ben ar 29 Ebrill. Pan gyhoeddwyd yr Ysgoloriaethau ar y 30ain, roeddwn eisoes wedi neilltuo pythefnos o heddwch i mi fy hun yn Strangford, Gogledd Iwerddon. Roedd anogaeth yr Ysgoloriaeth yn hwb aruthrol i mi ar gyfer y cyfnod hwn.

Y fferi yn Strangford
Y fferi yn Strangford

Ar lannau llyn Strangford, mae gan y pentref ddwy siop, dwy dafarn, dau fwyty a dau gaffi, ynghyd â fferi bach yn mynd yn ôl ac ymlaen o Bentir Ards bob hanner awr. Beth yn fwy allwn i ei angen?
Arhosais ar y brif stryd, mewn tŷ bychan, unigryw oedd yn eiddo i ffrindiau. Roedd diffyg gwres canolog yn golygu fy mod yn swatio yn yr ystafell wely ym mlaen y tŷ gyda bwrdd wrth ymyl y ffenest yn edrych tuag at Gastell Strangford, twr o’r pymthegfed ganrif. Roedd dyfroedd chwim y llyn ac adfeilion y felin ar y bryniau draw hefyd i’w gweld o’r fan hon. Canolfan i’r Brenin Magnus (Coesau Noeth) Olafson o Norwy oedd Strangford (‘Strong fjord’) a gollodd ei fywyd mewn brwydr nid nepell o’r fan yn 1103.

Castell Strangford
Castell Strangford

Heb fawr arall i’w wneud ond ysgrifennu roeddwn wrth fy modd. Serch hynny, rwy’n benderfynol o beidio â gorffen cyfnod yr ysgoloriaeth heb fod wedi dod o hyd i gyhoeddwr, felly roeddwn wedi cymryd rhai camau cyn ei mentro hi am Strangford, a fyddai’n sicrhau fy mod yn nes at y nod hwnnw.

Er fy mod yn gyfarwydd iawn â byd y cyfryngau darlledu, yn ogystal â’r ffaith fy mod yn gynhyrchydd ac yn ymgynghorydd polisi’r cyfryngau, rwy’n newydd iawn i fyd cyhoeddi. Doedd gen i’r un ffordd o gymharu fy hun ag arferion a thargedau awduron eraill. Rwy’n deall y farchnad i ryw raddau, felly roeddwn yn gwybod bod angen am asesiad gwrthrychol o ansawdd y gwaith roeddwn eisoes wedi’i wneud, a pha mor ddeniadol fyddai hwnnw i’r farchnad.

Gofynnais am gyngor gan Lenyddiaeth Cymru ac o ganlyniad ymchwiliais i waith golygyddion llenyddol. Mae awgrymiadau i’w cael ar wefan Llenyddiaeth Cymru ar dudalen Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer Awduron ac fe gysylltais â Gwen Lloyd Davies, golygydd y New Welsh Review (www.newwelshreview.com). Fe wnaethon ni gytuno y byddai hi’n darllen 18 o’m straeon i, gan asesu bob un yn unigol ac fel grŵp gyda’r nod o ystyried a oedd gen i gasgliad y byddai modd ei gyhoeddi. Roedd yr elfen hon o gasgliad yn rhywbeth nad oeddwn i wedi’i ddeall yn iawn fy hun. Roeddwn i wedi cyfansoddi’r straeon yn syml oherwydd roedd cymhelliant ynof i wneud.

Gofynnodd Gwen Lloyd Davies beth oedd ‘thema’r casgliad’. Am y tro cyntaf, oedais i feddwl am y 18 stori ddrafft hyn, ac eraill, fel cyfanwaith. Daeth thema i’r amlwg yn syth i mi, gydag ambell i is-thema. Rhoddais nodyn mewn amlen a’i selio, gan ofyn i Gwen ei ddarllen unwaith ei bod hi wedi llunio’i barn ei hun.

Rwyf am ddod o hyd i gynulleidfa i’m gwaith yng Ngogledd Iwerddon, felly roedd yn fwriad gennyf dreulio peth o’m hamser yno yn dod o hyd i’r posibiliadau. Gofynnais i Lenyddiaeth Cymru fy nghyflwyno i a’m gwaith i’w cydweithwyr yng Nghyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon (artscouncil-ni.org).

Dr Damian Smyth, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon
Dr Damian Smyth, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon

Roedd fy nghyfarfod gyda’r bardd, Dr Damian Smyth (www.damiansmyth.com), Pennaeth Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon yn werthfawr tu hwnt. Rwy’n ymateb yn dda i rywun proffesiynol sydd â dealltwriaeth o’r farchnad ynghyd â thrylwyredd priodol. Roedd yn gefnogol i’r ffaith fy mod eisoes yn gosod fy ngwaith o dan chwyddwydr golygydd proffesiynol. Trafodwyd cyhoeddwyr, ac o ganlyniad, fe gysylltais ag un o brif gyhoeddwyr Iwerddon, ac roeddwn wrth fy modd pan gefais gyfarfod ag un o’u huwch-swyddogion. Ers hynny, ac yn ôl eu cais nhw, rwyf wedi anfon tair stori atynt.

Yn y cyfamser, daeth Gwen Davies yn ôl ataf gydag ymateb bras, a oedd yn galonogol iawn. Roedd yn gadarnhaol iawn am ansawdd fy ngwaith a’r ymdeimlad o gyfanwaith. Ar fy niwrnod cyntaf yn ôl yng Nghaerdydd, daeth fy straeon drwy’r post i mi gyda’i nodiadau llawn. Mae ei sylwadau hi’n cyd-daro’n llwyr â’m teimladau i. Rwyf wrth fy modd gyda’r synnwyr o fireinio a ddaw yn sgil y broses hon, y fath grefftwaith. Mae’n bleser pur.

Rwyf wedi cytuno i anfon y straeon y bûm yn gweithio arnynt yng Ngogledd Iwerddon ati fel y gall roi ei barn ynghylch a ydyn nhw’n gweddu i batrwm y casgliad y mae hi eisoes wedi’i adnabod yn fy ngwaith.

Rwy’n cyfaddef i’r broses o ddod o hyd i’r thema sy’n sail i fy ngwaith, fod yn brofiad anghyfforddus. Feddyliech chi erioed fy mod yn gwybod cymaint am …

Cipolwg ar y sêr yn Harbwr Ardglass, Swydd Down
Cipolwg ar y sêr yn Harbwr Ardglass, Swydd Down

Cyn eistedd wrth fy nesg ar fore Llun, roeddwn wedi gwirioni i glywed fy mod wedi ennill Gwobr Gyntaf Cystadleuaeth Stori Fer Agored Cylch Awduron Pen-y-bont ar Ogwr am Acting Abby: “Mae’r stori aml-haenog hon yn parhau i adleisio yn fy meddwl am hydoedd wedi’i darllen, sydd bob amser yn arwydd o lwyddiant… darn o waith o’r radd flaenaf sy’n ysgogi’r meddwl.”

Felly ‘yr oll’ sydd yn rhaid i mi ei wneud nawr yw parhau i ysgrifennu ac i ddod o hyd i asiant a chyhoeddwr. Mae ychydig o fisoedd ar ôl i’r ysgoloriaeth. Cawn weld pa mor bell yr af.