Cwrs Unnos yw hwn sy’n cychwyn am 11.00 am ddydd Sadwrn 29ain ac yn dod i ben am 3.00 pm dydd Sul 30ain o Fedi

Ymunwch â ni ar gwrs penwythnos byr fydd yn eich cyflwyno i’r grefft o sgriptio ac addasu testun ar gyfer ffilm, teledu a’r llwyfan.  Byddwn yn cael golwg ar sut i drosi syniadau o un cyfrwng i’r llall – o ryddiaith i ffilm, o’r llwyfan i opera – ac yn edrych yn fanwl ar ofynion y cyfryngau amrywiol. Byddwn yn arbrofi gyda chreu naws o fewn golygfeydd unigol, yn ystyried sut i greu cymeriad cofiadwy, yn chwarae gydag ieithwedd ac arddull, a hefyd yn rhoi cyfle i awduron glywed eu gwaith yn cael ei ddarllen yn uchel. Bydd cyfle i gael sgyrsiau un-i-un yn ogystal â thrafod syniadau yn y gweithdai grŵp. Byddwch yn gadael y cwrs ag egin syniad dramatig i barhau ag o ar eich liwt eich hun, ac mewn cyfrwng o’ch dewis eich hun. Cwrs addas i ddechreuwyr a dramodwyr sydd â pheth profiad. Y tiwtoriaid yw Gwyneth Glyn a Fflur Dafydd. Mae Gwyneth Glyn yn ddramodydd, bardd a chantores, sy’n ffynnu ar arbrofi â gwahanol ffurfiau. Mae Fflur Dafydd yn nofelydd, sgriptwraig a cherddor o Gaerfyrddin.

Am fwy o wybodaeth am y tocynnau, tiwtoriaid a’r digwyddiad cliciwch yma.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cinio a swper ddydd Sadwrn, a brecwast a chinio dydd Sul