Cyflwyniad arbennig gan rai o ddisgyblion ysgolion Caerdydd dan arweiniad Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru. Byddant yn perfformio gweithiau sy’n dathlu’r Brifddinas a grewyd yn ystod gweithdai ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd yn eu hysgolion dan ofal Casia.
Trefnwyd y digwyddiad yma gan Llenyddiaeth Cymru.