Bydd Teithiau Tango, y cwmni gwyliau i’r Wladfa, yn cynnal sesiynau barddoniaeth ar eu stondin yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gyda beirdd sydd wedi teithio i dde America. Bydd y beirdd yn perfformio’u cerddi ac yn siarad am eu profiadau yn teithio, gan roi blas i Eisteddfodwyr o swyn y paith.

“Pwrpas y digwyddiadau yma ar hyd yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth am ein perthynas ni yng Nghymru gyda’n cyfeillion yn y Wladfa a thu hwnt,” meddai Alaw Griffiths o’r cwmni, “ac i ddangos sut y mae teithiau i’r Wladfa ac ardaloedd eraill yn America Ladin wedi ysbrydoli cerddi.”

Fe fydd Llŷr Gwyn Lewis  yn cynnal sesiwn am 2.00pm ar ddydd Llun, 7 Awst,  Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury yn cymryd rhan am 2.00pm ddydd Mercher, 9 Awst, ac Elan Grug Muse yn y stondin am 2.00pm ddydd Iau, 10 Awst.

Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymry drwy gynllun Llên ar Daith ar y Maes.