Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru am noson o farddoniaeth, cerddoriaeth a thrafodaeth ar fywyd a gwaith Hedd Wyn, gan gynnwys gweithiau gan feirdd eraill y Rhyfel Byd Cyntaf a chyfle i glywed ymatebion cyfoes i’w gwaith yng nghwmni Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, Geert Buelens, Patrick McGuinness a Gwyneth Glyn.

Cynhelir y digwyddiad yn:

Passa Porta

Rue Antoine Dansaert 46

1000 Brwsel.

Ateber erbyn Dydd Llun 8 Mai 2017 os gwelwch yn dda: post@llenyddiaethcymru.org

Trefnir y digwyddiad gan Llenyddiaeth Cymru ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r digwyddiad yn ran o raglen Llywodraeth Cymru o weithgareddau diwylliannol sy’n cael eu trefnu mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Fflandrys.