Cwrs 6 wythnos yng Nghanolfan Parc Biwt ar sut i ysgrifennu i blant. Yn ystod 6 Sul ceir cyfle i ddysgu hanfodion y grefft o lunio plot, adeiladu cymeriadau a darganfod llais unigryw ar gyfer llyfrau lluniau a llyfrau i blant hŷn. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer ysgrifennwyr profiadol a newydd ac mae'r cwrs yn cael ei gynnal dan diwtoriaeth Jon Blake, awdur sawl llyfr ac ennillydd sawl gwobr. Pris y cwrs yw £95 (£85 os ydych wedi bod ar un o'r cyrsiau yn barod), gostyngiad i'r di-waith. Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â Jon drwy ffonio neu ebostio 07599 203480jonblakeauthor@gmail.com www.parkwrite.com.