Fel rhan o ddigwyddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd mae Llenyddiaeth Cymru wedi trefnu bod yr awdur a’r cerddor Siôn Tomos Owen yn ymgartrefu yn Octavo’s – unig gaffi llyfrau Bae Caerdydd, er mwyn sgwennu cerdd neu greu cartŵn ar gais unrhyw un sy’n gofyn yn neis iddo. Boed chi’n chwilio am anrheg cyflym ar y “Maes” neu am rywbeth bach i gofio Steddfod 2018, dyma’r lle i ddod!