Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Awdur Llawryfog Plant Waterstones, Lauren Child, yn ymweld â Chaerdydd fis Mawrth i gymryd rhan mewn digwyddiad i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o awduron plant ac addysgwyr. Bydd yr awduron Casia Wiliam a Sophie McKeand yn ymuno â Lauren, sy’n adnabyddus am greu’r gyfres boblogaidd Charlie and Lola.

Cynhelir y digwyddiad ar 16 Mawrth yng Nghampws Cyncoed Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mewn cydweithrediad â’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol. Mewn sgwrs ddwyieithog, bydd yr awduron llawryfog – Lauren, Casia a Sophie – yn trafod sut y maent yn hyrwyddo cariad at lenyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc o bob oed, a’n rhannu eu dulliau amrywiol o ysbrydoli plant i gredu yn eu potensial creadigol.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn. Mae datblygu maes sgwennu a dylunio ar gyfer plant yn hanfodol bwysig gan fod cael gafael ar lenyddiaeth wych yn gynnar mewn bywyd yn cael effaith barhaol arnom. Rydym wrth ein boddau o gael gweithio â phartneriaid i sicrhau fod cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i gael eu hysbrydoli a’u swyno gan bŵer y stori.

Tocynnau yma