Ydych chi wedi cwrdd â Gethin, arwr 13 oed y nofel gyffrous, Gethin Nyth Brân (Gwasg Carreg Gwalch)? Un bore mae’n deffro ac mae’n 1713 ac mae’n cwrdd â bachgen o’r enw Guto sy’n gallu rhedeg fel y gwynt. Yn y sesiwn hon bydd dau fyd yn mynd benben â’i gilydd gan danio’r dychymyg!