Caru straeon ditectif? #GŵylStraeonDitectif    #cdfcrimefest

Mae’r Ŵyl Straeon Ditectif a Choffi newydd sbon yn wledd i ddilynwyr straeon ditectif a straeon ias a chyffro, a bydd yn cael ei chynnal rhwng 1 Mehefin a 2 Mehefin yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd. 

Yn ymuno â’r awduron arobryn Belinda Bauer Christopher Fowler fydd Rebecca Trope, Kate Hamer, Mark Ellis, Katherine Stansfield a llawer mwy. Gyda sgyrsiau, darlleniadau a thrafodaethau panel, ynghyd â gweithdai lle y gall ysgrifenwyr ddatblygu eu sgiliau gydag awduron cyhoeddedig, ceir rhaglen lawn dop i’w mwynhau. 

Gyda chymorth cydweithfa awduron Crime Cymru, mae’r ŵyl yn hynod falch o allu hyrwyddo awduron straeon ditectif o Gymru a straeon ditectif sydd wedi eu gosod yng Nghymru. Dewch i gwrdd â’r awduron sy’n ein gwneud ni’n genedl o storïwyr  ac i glywed sut maen nhw’n mynd dan groen y troseddwr a’r ditectif ill dau. 

Bydd coffi a byrbrydau ar gael hefyd gan Big Moose Coffee Co.  

Noddir yr ŵyl gan WF Howes, Octavo’s Book Cafe, Honno, Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Caerdydd a’r Big Moose Coffee Co. 

Bydd ffotograffwyr yn bresennol, os nad ydych yn dymuno i’ch llun gael ei dynnu hysbyswch aelod o staff yn y lleoliad.

Mae tocynnau yn brin, felly cadwch le ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. 

Bydd unrhyw docynnau sy’n weddill ar gael yn y lleoliad ar y diwrnod, arian parod yn unig.

Manylion yn gywir ar adeg cyhoeddi.

Gall y digwyddiadau newid.