Beirdd Cymraeg ydi’r unig rai trwy’r byd sy’n cynganeddu. Mae’n fath o ysgrifennu sy’n dod â geiriau a cherddoriaeth at ei gilydd, ac mae’n 1,500 o flynyddoedd oed. Dewch am y dydd i drafod, i ddadansoddi ac i greu, ac mi fyddwch chi’n siŵr o fynd adref yn meddwl yn wahanol – nid yn unig am gerddi, ond am eich hanes a’ch iaith hefyd! Dyma gwrs blasu yn arbennig i’r rheiny sydd â chwilfrydedd ynglŷn â’r gynghanedd a rhai â pheth gwybodaeth sylfaenol am grefft y gerdd dafod. Byddwch yn gadael gyda llond gwlad o linellau a storfa o syniadau er mwyn parhau â’r cynganeddu. Dewch i ganfod cyfrinachau’r grefft!

Karen Owen fydd yn rhedeg y gweithdy. Newyddiadurwr, mathemategydd a bardd o Ben-y-groes yw Karen, sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith ac wedi perfformio ledled y byd. Enillodd gystadleuaeth llefaru agored yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol, yn 2013 a 2014. Daeth yn olygydd cylchgrawn Golwg pan yn 26 oed. Wedi hynny, bu’n gynhyrchydd rhaglenni crefydd BBC Cymru; yn ohebydd dadleuol i bapur newydd Y Cymro; a hi bellach ydi golygydd gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360. Daeth y barddoniaeth, mathemateg a’r newyddiaduraeth oll yn handi ym Medi 2017 pan gymerodd Karen ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru, gan lwyddo i gyfrannu at gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol am faterion cyfoes mewn 24 awr.

Bydd cinio ysgafn ynghyd â phaneidiau a chacennau rheolaidd oll yn rhan o’r pris.

Dyma’r ddolen i’r wefan am fwy o wybodaeth.