Bydd y ddarlith yn canolbwyntio ar hanes a llenyddiaeth yr ysgol Sul gan olrhain pam y bu mor llwyddiannus yn y cyfnod cynnar. Mae’r ateb yn glir a diamwys. Fe gododd a thyfu o dir a daear Cymru – mudiad trwyadl Gymraeg a Chymreig. Pobl â gweledigaeth a thân yn eu boliau oedd yr arloeswyr cynnar a roddodd gyfle i’r werin ddatblygu, arwain a rhannu eu doniau.
Ysgolion oedd y rhain ar gyfer teuluoedd cyfan a chyflwynwyd iddynt amrywiaeth helaeth o gyfarpar yn eu hiaith. Y Beibl oedd y llyfr gosod a llafuriodd Thomas Charles i greu geiriadur cynhwysfawr er mwyn deall a dehongli ei neges a’i genadwri. Bu eraill, ac yntau’n paratoi catecismau i’w hyfforddi yn y ffydd ac emynau i fynegi’r ffydd mewn addoliad. Ymddangosodd toreth o gyfnodolion, 30 ohonynt rhwng 1820 – 1851. Roedd eu cynnwys yn amrywiol ac yn apelio at drwch y boblogaeth.

Mewn gair, llwyddwyd i gyfannu addysg, diwylliant, crefydd a’r iaith Gymraeg a thrwy hynny esgorwyd ar werin lafar, hyderus a phell-gyrhaeddol oedd yn barod i chwarae eu rhan ymhob agwedd o’r gymdeithas i’w dyrchafu a’i chodi’n gymuned ffydd a hynny yn iaith y bobl. Dyma’r UNIG gyfundrefn addysg gwbl Gymraeg a Chymreig a gawsom ni fel cenedl.

 

Mae’r Parchedig Ddr Huw John Hughes yn awdur creadigol toreithiog ac yn ddarlithydd hynod o ddifyr a phoblogaidd.

 

Caiff y noson ei chynnal gyda chymorth ariannol gan gynllun nawdd Awduron ar Daith.