Mae’n bleser gan Oriel Davies gyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored Oriel Davies 2017, a fydd yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad fydd yn cael ei gynnal ar 24 Chwefror yn yr Oriel.

Y tro hwn, gwahoddodd y gystadleuaeth awduron i gyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith ar y thema Dŵr.

Cafodd y beirniaid, sef y bardd natur, Chris Kinsey a Sophie McKeand, Awdur Pobl Ifanc Cymru, sialens heriol, eto bleserus, yn darllen trwy’r nifer o geisiadau i ddewis yr enillwyr, yn ogystal â’r rhai hynny oedd yn haeddiannol i dderbyn canmoliaeth arbennig. Gweler y rhestr isod

.

Digwyddiad dathlu

Bydd enillwyr y cystadlaethau, yn ogystal â llawer o’r rhai hynny sydd wedi derbyn canmoliaeth arbennig,  yn dod at ei gilydd i ddathlu eu gwaith mewn digwyddiad arbennig yn Oriel Davies.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 24 Chwefror, o 2.30 tan 4pm, a bydd yn cael ei arwain gan Chris Kinsey.  Bydd cost o £3 am y tocynnau (am ddim i ymgeiswyr).

Rhaid bwcio lle, gan fod llefydd yn brin – 01686 625041, desk@orieldavies.org.